Medrwn | eich datblygu we can develop you TrainingTourismBusiness
ENGLISH
Medrwn | eich datblygu we can develop you MeirionnyddCeredigionPowys
Medrwn | eich datblygu we can develop you
CARTREF
CROESO
HANES
CAIS
CWRS HANES
ADBORTH
TIM
DOLEN


croeso i medrwn


Mae rhaglen datblygu adnoddau dynol MEDRWN yn defnyddio'r slogan "MEDRWN ... eich datblygu" / "WE CAN .... develop you".

Rydym yn cynnig gwasanaethau hyfforddi a datblygu i fusnesau twristiaeth yn ardaloedd Amcan 1 ac Amcan 3 Canolbarth Cymru sef Ceredigion, Meirionnydd a Phowys.

Mae ein hwyluswyr profiadol yn cydweithio â busnesau lleol yn eu cymunedau i ganfod beth yw anghenion hyfforddi'r cyflogwyr a'r gweithwyr. Byddwn yn trin pawb yn gyfartal, yn cynnwys y rhai sydd â gofynion arbennig e.e. hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg, cyfleusterau ar gyfer pobl anabl a meithrinfeydd.

Mae Medrwn yn ceisio cynnig hyfforddiant hyblyg a chyfleus trwy ddatblygu cyrsiau, gweithdai, seminarau, digwyddiadau a theithiau cynefino, gan annog rhwydweithio a rhannu arferion gorau.

Mae hyn yn swnio'n dda ond beth fydd y gost i chi?

Bydd Medrwn yn cynnig gweithgareddau'r rhaglen am ddim os oes modd neu'n cynnig cymorthdal hael. Mae'n rhaid i ni gadw at ein cyllideb ond caiff pob cwrs neu ddigwyddiad ei ystyried yn ôl ei haeddiant ei hunan. Os na allwn ni helpu, bydd Medrwn yn ceisio'ch cyfeirio at raglenni neu gymorth arall addas.

Mae Medrwn yn gyfle ardderchog i gydweithio â phob math o fusnesau yn yr ardal. Mae twristiaeth yn effeithio ar bob math o wahanol fusnesau - siopau, garejus a chanolfannau hamdden lleol, darparwyr llety, atyniadau a busnesau gweithgareddau. Nod Medrwn yw helpu'r holl fusnesau hyn i gael cymorth trwy gyfrwng y rhaglen a darparu hyfforddiant mewn ffordd hyblyg ac arloesol.

Edrychwch trwy'r gwefan i weld beth rydym eisoes wedi'i gyflawni a sut y mae busnesau wedi elwa hyd yma. Cewch ddarllen am y cyrsiau a gynhaliwyd a'r rhai y bwriedir eu cynnal a nodi beth yw eich diddordebau.

Edrychwn ymlaen at gydweithio â chi.



Tourism Training Forum for Wales          Tourism Partnership MID WALES          European Union Objective 1 & Objective 3  |  European Social Fund
Mewn partneriaeth a Chynghorau Sir Powys, Ceredigion a Gwynedd
In partnership with Powys, Ceredigion and Gwynedd County Councils

Cartref  |  Croeso  |  Hanes  |  Cais  |  Cwrs Hanes  |  Adborth  |  Tîm  |  Dolen
Meirionnydd  |  Ceredigion  |  Powys  |  ENGLISH

Medrwn, Ty Glyndwr, Machynlleth, Powys, SY20 8WW.
Ffôn: 01654 704201  |  Ffacs: 01654 704225  |  

Cynllun gan Severn Media Group Ltd. Ffôn: 01686 622365 ©2005.

Medrwn | eich datblygu we can develop you