Medrwn | eich datblygu we can develop you TrainingTourismBusiness
ENGLISH
Medrwn | eich datblygu we can develop you MeirionnyddCeredigionPowys
Medrwn | eich datblygu we can develop you
CARTREF
CROESO
HANES
CAIS
CWRS HANES
ADBORTH
TIM
DOLEN


croeso i medrwn

Mae'r cyrsiau a'r dyddiau hyfforddi di-dâl hyn eisoes wedi'u cynnal yn ardaloedd Powys, Ceredigion a Gwynedd. Buont yn llwyddiannus ac mae dros 500 o bobl wedi elwa o fod yn bresennol ynddynt.

Cliciwch ar y cwrs sydd o ddiddordeb i chi a chyflwyno'ch manylion. Anfonir y wybodaeth hon at yr hwylusydd yn eich ardal chi a bydd ef neu hi'n cysylltu â chi. Nid oes raid i'r cyrsiau a nodir isod ddilyn yr un fformat ac fe ellir eu haddasu i ateb eich gofynion chi.

Cofiwch glicio ar eich ardal chi ar Fap Medrwn i weld beth sy'n digwydd yno yn yr Gwanwyn 2006.


Clicwch ar y cysylltu isod i weld cwrs manylion: * Dim sicrwydd y gwneir hyn


Marchnata'ch busnes
gweithgareddau chi
Seminar Twristiaeth
Gweithgareddau
Argraffu defnyddiau i
hyrwyddo'ch busnes
Ymweliad
Cynefino
Mae llun yn werth
mil o eiriau
Digwyddiadau
Ymwybyddiaeth
Gwneud Defnydd
Effeithiol o'r Rhyngrwyd
Achlysur
Seiclo
Sesiwn Siopwr
Dirgel IQM
Sesiwn Farchogaeth
y Tair Afon
Gwerthu i Bobl sy'n Chwilio
am Wyliau Gweithgareddau
Twristiaeth
Bywyd Gwyllt
Achlysur Ymwybyddiaeth o
Ddaeareg ac Archaeoleg
Ysgrifennu
Copi Effeithiol
Ymdeimlad
o Le
Ffordd
Eluned
Dyddiau Adfywio
trwy Dwristiaeth
Addurno
Ffenestri Siopau
Twristiaeth Byd
Natur yn Rhaeadr
Walking on the
Wild Side
Riding
High
Defnydd Effeithiol o'r Wasg
a Chysylltiadau Cyhoeddus
Gweithdy Datganiad
Mynediad
Diwrnod yr Iaith Gymraeg
a'r Diwylliant Cymreig
Diwrnod Hyfforddi
MS Outlook Express
Diwrnod
Beicio Mynydd
Profiad o
Gymru a'r Eidal
Website
Accessibility


Marchnata'ch busnes gweithgareddau chi Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Cwrs undydd i roi trosolwg ar dechnegau marchnata effeithiol ar gyfer twristiaeth gweithgareddau, yn cynnwys:


  • Dealltwriaeth o'r farchnad wyliau yng Nghymru
  • Deall tueddiadau o ran gwyliau gweithgareddau yng Nghymru o hyn ymlaen
  • Creu'ch gwaith ymchwil a'ch strategaeth fusnes bersonol chi'ch hunan
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am y grantiau sydd ar gael
  • Sut i hyrwyddo'ch busnes yn effeithiol

I Top


Seminar Twristiaeth Gweithgareddau Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Bydd yr achlysur undydd hwn yn cynnwys cyflwyniadau gan y Bwrdd Croeso a darparwyr gweithgareddau marchogaeth, pysgota a seiclo. Ceir sesiynau ymateb i godi ymwybyddiaeth o botensial twristiaeth gweithgareddau yng Nghymru.

I Top


Argraffu defnyddiau i hyrwyddo'ch busnes Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Cwrs undydd i helpu busnesau i greu taflenni ac ati sy'n effeithiol, yn rhesymol eu cost ac yn edrych yn dda. Trafodir:


  • Penderfynu ar y farchnad i'w thargedu
  • Penderfynu sut i ddefnyddio'r taflenni ac ati a sut i gael y cyflwyniad mwyaf cost-effeithiol i ateb eich anghenion
  • Sut i'ch mynegi'ch hunan mewn geiriau - arddull a chynnwys
  • Sut i'ch mynegi'ch hunan mewn lluniau - lliwiau a dylunio
  • Cydweithio â dylunwyr ac argraffwyr

I Top


Ymweliad Cynefino Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Prosiect Marchogaeth a Gyrru Cart a Cheffyl Dyfnant ac Efyrnwy
Trefnwyd yr achlysur hwn i ddangos cyfleusterau'r prosiect newydd hwn i fusnesau twristiaeth ac i dynnu sylw at y cyfleoedd a'r manteision a geir o gydweithio.

Hwn oedd y cyntaf o ddau ymweliad cynefino a ddatblygwyd i gyd-fynd â'r Seminar Twristiaeth Gweithgareddau (uchod). Roedd yn dangos sut i gydweithio'n effeithiol a sut i ddatblygu arlwy arloesol gan dynnu sylw busnesau twristiaeth at botensial twristiaeth gweithgareddau yn y Canolbarth. Datblygwyd y prosiect gan nifer o fusnesau ac unigolion ar y cyd, mewn cydweithrediad â'r Comisiwn Coedwigaeth a grwp y WDA, Antur Dwy Afon. Nod y prosiect yw cynnig adnoddau o safon uchel ym maes marchogaeth a gyrru ceffyl a chart i bobl leol ac ymwelwyr. Datblygwyd llwybrau trwy'r goedwig i farchogaeth a gyrru arnynt, ynghyd â chorlannau, lle i barcio lorïau ac adeilad ar gyfer defnyddwyr y goedwig. Eisoes, trefnwyd i gynnal nifer o achlysuron cenedlaethol o bwys yn y ganolfan y flwyddyn nesaf a bydd hynny'n siwr o ddenu rhagor o bobl i'r ardal.

I Top


Mae llun yn werth mil o eiriau Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Cwrs undydd i ystyried grym ffotograffau gydag awgrymiadau sut i dynnu'r lluniau gorau o'ch busnes a'u fframio at ddibenion marchnata. Hefyd, trafodir effaith lluniau ar ddarpar ymwelwyr, beth i'w gynnwys mewn llun, defnyddio llyfrgelloedd lluniau ac ymweliad ag un o'r busnesau ar y cwrs i roi'r hyn a ddysgwyd ar waith.

I Top


Digwyddiadau Ymwybyddiaeth o'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Gwahoddir busnesau twristiaeth o Bowys, Ceredigion a Gwynedd i ddysgu mwy am ofynion cyfreithiol y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd i fusnesau. Rhoddir cyngor ymarferol i fusnesau ar sut i fodloni'r gofynion cyfreithiol er mwyn diwallu anghenion pobl anabl (mae tuag 8.5 miliwn ohonynt yn y DU ac amcangyfrifir eu bod yn gwario £40 biliwn y flwyddyn ar dwristiaeth (Tourism for All 2004). Gwahoddir siaradwyr o Fwrdd Croeso Cymru, Cyfle Ceredigion a'r sector preifat. Gall y diwrnod gynnwys ymweliadau cynefino â dau fusnes twristiaeth sy'n cynnig cyfleusterau da sy'n hwylus ar gyfer ymwelwyr llai abl. *

I Top


Gwneud Defnydd Effeithiol o'r Rhyngrwyd Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Dros y deng mlynedd ddiwethaf, mae'r swm a wariwyd dros y rhyngrwyd wedi cynyddu'n aruthrol o £1.5 biliwn i £13.1 biliwn. Bydd pobl sy'n dod ar y cwrs undydd arbenigol hwn yn cael gweld y posibiliadau o ran cynyddu eu siâr o'r farchnad hon a dod yn fwy cystadleuol ac adnabyddus.

I Top


Achlysur Seiclo Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Yn y digwyddiad undydd llwyddiannus hwn, cafodd busnesau lleol wybod am y llwybrau seiclo newydd sy'n cael eu datblygu yng Ngheredigion a thu hwnt ac ystyried sut y gallai'r llwybrau hyn effeithio ar eu busnes. Cawsant ysbrydoliaeth a gwybodaeth gan yr awdur a'r seiclwr brwd Nick Cotton a nifer o siaradwyr eraill. Cawsant gyfle hefyd i gwrdd â busnesau eraill a chynrychiolwyr o gymdeithasau a chlybiau seiclo.

I Top


Sesiwn Siopwr Dirgel IQM (Rheolaeth Ansawdd Integredig) Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Datblygwyd dau achlysur undydd gan Medrwn mewn partneriaeth ag adran dwristiaeth Cyngor Sir Powys gyda Swyddog Ardal Twf Twristiaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a grwpiau'r WDA, Brecon Action a Team Llandrindod. Busnesau twristiaeth Aberhonddu a Llandrindod oedd yn gyfrifol am y sesiynau hyn. Cynhaliodd busnesau Aberhonddu a Llandrindod arolygon "siopwr dirgel" yn ardaloedd y naill a'r llall er mwyn codi ymwybyddiaeth, rhoi gwybodaeth ac ennyn diddordeb yn y broses IQM - ac i


  • greu teimlad o berchnogaeth o'r prosiect ymhlith y busnesau eu hunain
  • annog arferion gorau
  • rhoi cyfle i'r busnesau gael hyfforddiant a sesiynau codi ymwybyddiaeth
  • gwneud busnesau'n ymwybodol o anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid
  • rhoi cyfle i fusnesau rwydweithio

I Top


Sesiwn Farchogaeth y Tair Afon Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Nod yr achlysur undydd hwn yw codi ymwybyddiaeth o "Lwybr y Tair Afon" i fusnesau marchogaeth a darparwyr llety. Ceir cyflwyniad gan "Wales on Horseback" ac arddangosfa goginio gan Ivan Langford sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd bwyd addas, cytbwys o ansawdd da ar gyfer pobl ar wyliau marchogaeth.

I Top


Gwerthu i Bobl sy'n Chwilio am Wyliau Gweithgareddau Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Cwrs undydd i'ch helpu chi a'ch staff i fanteisio i'r eithaf ar eich cysylltiadau â'ch cwsmeriaid o'r sgwrs ffôn gyntaf hyd nes y byddant yn gadael ar ddiwedd eu gwyliau. Mae'r cwrs yn cynnwys:


  • Sgiliau ffôn ac e-bost
  • Adnabod pobl sy'n chwilio am wyliau gweithgareddau a bodloni eu gofynion
  • Sgiliau i'ch helpu i ddeall anghenion eich cleientiaid a sut i'w bodloni
  • Ffyrdd effeithiol o droi ymholiadau'n archebion
  • Sut i sicrhau gwyliau cofiadwy - creu perthynas rhyngoch chi a'r cwsmer

Bydd y diwrnod yn cynnwys cyflwyniadau, cyfle i rannu profiadau a rhai agweddau newydd!

I Top


Twristiaeth Bywyd Gwyllt Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Digwyddiad undydd a ddatblygwyd gan Medrwn mewn partneriaeth â Swyddog Ardal Twf Twristiaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mewn cysylltiad â rhaglen y "Ddraig Werdd" - rhaglen y mae'r Parc yn helpu i'w hyrwyddo. Roedd y cwrs yn cyfeirio at y rhaglen fel cyfle marchnata i fusnesau.

Cynhaliwyd y cwrs yn y Primrose Awareness Trust a'r nod oedd dysgu darparwyr twristiaeth am yr amgylchedd, creaduriaid a phlanhigion; gwella'r profiad a gaiff ymwelwyr; sicrhau gwell dealltwriaeth o ddisgwyliadau cwsmeriaid a gwneud busnesau'n fwy cystadleuol; ac annog rhwydweithio, gweithio mewn clystyrau a chyfleoedd i weithio mewn partneriaeth.

I Top


Achlysur Ymwybyddiaeth o Ddaeareg ac Archaeoleg Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Datblygwyd y cwrs hwn gan Medrwn mewn partneriaeth â Swyddog Ardal Twf Twristiaeth (ATT) Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (PCBB) i annog rhwydweithio a datblygu gweithio mewn clystyrau a phartneriaethau. Y nod yw dysgu arweinwyr teithiau marchogaeth lleol am dreftadaeth ddaearegol ac archaeolegol yr ardal trwy gyfrwng sgyrsiau a sleidiau. Rhennir pecynnau gwybodaeth. Mae'n helpu i gyfleu'r syniad i fusnesau bod y maes hwn yn gyfle marchnata ac mae'n adeiladu ar y gweithgarwch blaenorol gyda busnesau marchogaeth.

I Top


Ysgrifennu Copi Effeithiol Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Cwrs undydd gyda'r nod o helpu busnesau twristiaeth i ysgrifennu gwell copi at ddibenion marchnata a hysbysebu. Rydym yn byw mewn byd cystadleuol lle mae'n anodd denu sylw. Gan fod pobl yn cael pob math o wybodaeth o deledu lloeren, papurau, cylchgronau a'r rhyngrwyd, mae'n rhaid i'ch busnes chi gystadlu â busnesau ym mhedwar ban byd. Felly, mae sgiliau ysgrifennu da yn hanfodol. Os ydych am ysgrifennu hysbyseb, taflen, gwefan neu ddatganiad i'r wasg, mae'n hollbwysig eich bod yn gallu defnyddio iaith gryno sy'n apelio at y sawl a dargedir. Mae'r cwrs yn trafod defnyddio iaith fanwl ac effeithiol. Defnyddir cyfuniad o gyflwyniadau byr (croesawir sylwadau a chwestiynau), gweithdai a thaflenni i ddysgu hanfodion ysgrifennu da.

Awdur a newyddiadurwr llaw rydd yw Daniel Butler ac mae ganddo ddiddordeb arbennig yn yr amgylchedd a thwristiaeth gynaliadwy. Pan na fydd yn ysgrifennu ar gyfer Country Living, The Telegraph, Countryside a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae'n arwain teithiau i chwilio am fadarch gwyllt bwytadwy yn y Canolbarth. Datblygwyd y cwrs ar y cyd â Swyddog TTA PCBB. Mae'n ddilyniant i'r cyrsiau marchnata a ffotograffiaeth.

I Top


Ymdeimlad o Le Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Nod y cwrs undydd hwn yw helpu busnesau twristiaeth i ddeall pa mor bwysig yw 'ymdeimlad o le' i ymwelwyr a pham y dylent geisio helpu ymwelwyr i ddeall treftadaeth a diwylliant yr ardal. Y tro hwn, aeth Michael Freeman o Amgueddfa Aberystwyth â chriw ar daith hanesyddol o gwmpas y dref a rhoddodd daflenni gwybodaeth i'r busnesau i'w rhoi i'w hymwelwyr. Aethant i'r Llyfrgell Genedlaethol lle cafwyd sgwrs ddifyr gan Sion Jobbins a esboniodd pa gyfleusterau a gwasanaethau sydd gan y llyfrgell i'w cynnig i bobl leol ac ymwelwyr. Mwynhawyd cinio rhwydweithio yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, lle trafodwyd syniadau eraill ar gyfer creu 'ymdeimlad o le' mewn busnesau a chymunedau.

I Top


Ffordd Eluned Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Achlysur undydd i roi gwybod i fusnesau twristiaeth am "Ffordd Eluned" - cyfres o lwybrau a ddatblygwyd yn ardal Aberhonddu ac sy'n gysylltiedig ag Eluned, merch Brychan Brycheiniog.

I Top


Dyddiau Adfywio trwy Dwristiaeth Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Bwriad y diwrnod hwn yw rhoi gwybod i fusnesau twristiaeth yn y Canolbarth am gyfleoedd a materion sy'n berthnasol iddynt. Cynhaliwyd y dyddiau hyn yn Aberteifi a Thregaron hyd yma.

I Top


Addurno Ffenestri Siopau Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Cwrs undydd hyblyg yw'r "Gweithdy Addurno Ffenestri" a'i nod yw helpu siopau i werthu mwy. Ceir llu o syniadau, awgrymiadau a thechnegau gwerthu modern a fydd yn eich helpu i ddenu cwsmeriaid ac i werthu mwy. Croeso i bobl o bob math o siopau, beth bynnag yr ydych yn ei werthu. Mae darpar gwsmeriaid yn edrych ar eich ffenest chi a ffenestri'ch cystadleuwyr.


  • Arddangosfa addurno ffenest. Themâu tymhorol a sesiwn ymarferol.
  • Creu'r argraff gywir. Mae'ch siop fel theatr a'r ffenest yn rhoi golwg i bobl ar eich enaid. Mae cyflwr ffenest eich siop yn dangos faint o synnwyr busnes sydd gennych.
  • "Arddangosfa am ddim" Defnyddio pethau naturiol i addurno'ch ffenest.
  • "Display for free" Found and Natural display props.
  • Defnyddio ffenest arddangos i werthu - hyder a dirprwyo. Beth i chwilio amdano mewn nwyddau, prynu, arddangos a symud stoc.
  • Cynllunio, cynllunio, cynllunio! Targedu'ch cynulleidfa! Sut i gynllunio a chynnal arddangosfeydd am flwyddyn.
  • Pennu targedau gwerthu i staff...nid eu rhoi dan bwysau...ond cael hwyl! Sut i reoli targedau - does dim rhaid i system o werthuso a gwobrwyo staff fod yn gostus.
  • Cyfathrebu trwy arddangos, adrodd straeon, themâu a hiwmor.
  • Stopiwch! Edrychwch! Prynwch! Denu cwsmeriaid newydd. Ymwelwyr - beth maen nhw'n ei ddisgwyl?
  • Monitro gwerthiant...mesur eich gallu i brynu'r nwyddau iawn? Pam ddylech chi wneud hyn? Sut i'w wneud yn well?

I Top


Twristiaeth Byd Natur yn Rhaeadr Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Sesiynau prynhawn a nos i ddysgu busnesau twristiaeth am dreftadaeth unigryw'r ardal o ran bywyd gwyllt a'r amgylchedd a thynnu sylw at gyfleoedd i farchnata a gwneud busnes. Ceir sesiynau hyfforddi, teithiau tywys a chyfleoedd i rwydweithio. Yr hyfforddwr yw Richard Knight sydd wedi gweithio fel Warden yr RSPB yn yr ardal ers blynyddoedd ac sydd hefyd yn arwain gwyliau bywyd gwyllt yn yr ardal a thu hwnt. Mae ganddo stôr o wybodaeth am fywyd gwyllt a byd natur yn yr ardal ac mae wedi cychwyn grwp astudiaethau natur lleol o'r enw - 'Rhayader by Nature'.

Rhagor o fanylion am yr ymweliad cynefino i gael eu datblygu a'u cadarnhau. Datblygwyd y cwrs mewn partneriaeth rhwng Rhaeadr 2000 a CARAD, y grwp celfyddydau cymunedol lleol. Bydd y cwrs yn annog rhwydweithio a gweithio mewn clystyrau a phartneriaethau.

I Top


Walking on the Wild Side Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Cyfarfod rhwydweithio a chodi ymwybyddiaeth oedd hwn. Fe'i seiliwyd ar bwysigrwydd yr amgylchedd naturiol i ymwelwyr. Cafwyd cyflwyniad ardderchog ar yr Arfordir Treftadaeth a'i drigolion, gan sôn am bwysigrwydd Bae Ceredigion mewn cyd-destun Ewropeaidd. Soniodd Nigel Nicholas, Swyddog Arfordir Treftadaeth Ceredigion am ddatblygiad llwybr Arfordir Ceredigion a soniwyd am bwysigrwydd galluogi pobl leol ac ymwelwyr i fwynhau cefn gwlad. Roedd llawer o daflenni ar gael i fusnesau eu rhoi i'w hymwelwyr: digwyddiadau yng nghefn gwlad; llwybrau; codau ymarfer ar gyfer yr arfordir treftadaeth, cylchlythyrau a thaflenni gwybodaeth. Ar ôl y cyflwyniadau, cafwyd ymweliad â'r Parc Bywyd Gwyllt yng Nghilgerran i gael taith dywys i weld y corsydd a swper rhwydweithio.

I Top


Riding High Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Cwrs undydd gyda'r nod o roi gwybod i ddarparwyr llety am anghenion pobl sydd ar wyliau marchogaeth. Gwahanol siaradwyr a chyfle i farchogaeth am dipyn bach er mwyn gallu gwerthfawrogi'r gamp.

I Top


Defnydd Effeithiol o'r Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Nid prynu hysbysebion yw'r unig ffordd o'ch gwerthu'ch hunan. Mae gormod o fusnesau'n dibynnu ar hysbysebion costus i hyrwyddo'u gweithgareddau pan fyddai'n well o lawer iddynt gysylltu â newyddiadurwr. Mae llawer o gwmnïau'n sylweddoli hynny ac yn troi at asiantaethau proffesiynol i'w helpu ond mae hyn yn gostus ac, fel rheol, gallai 'rhywun yn y fan a'r lle' wneud y gwaith yn fwy effeithiol.

Mae'r cwrs hwn yn ystyried rhai o'r ffyrdd rhataf o dynnu sylw. Mae'n dangos sut i adnabod stori ddiddorol, a sut i'w hysgrifennu a'i chyflwyno i gael yr effaith orau. Mae hefyd yn cynnig awgrymiadau am sut i drafod newyddiadurwyr.

I Top


Gweithdy Datganiad Mynediad o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Mae cyfleu ymdeimlad o le, talu sylw i fanylion a sicrhau cywirdeb wrth gyfathrebu yn elfennau allweddol er mwyn cael Datganiad Mynediad da. Diffyg gwybodaeth yw'r rhwystr mwyaf o ran sicrhau mynediad ac mae'n rhaid goresgyn y rhwystr hwnnw. Wrth baratoi datganiad, cewch gyfle i asesu'ch busnes ac i ystyried a chynllunio unrhyw welliannau. Mae hyn yn dangos ymroddiad i ofalu am gwsmeriaid ac yn gyfle i ddangos i gwsmeriaid, ac i'ch atgoffa'ch hunan, bod eich busnes yn cynnig profiad arbennig i ymwelwyr. Mae Colin Antwis, cynghorydd mynediad Bwrdd Croeso Cymru, yn rhannu ei syniadau a nifer o awgrymiadau ymarferol.

I Top


Diwrnod yr Iaith Gymraeg a'r Diwylliant Cymreig Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Nod y cwrs undydd hwn yw codi ymwybyddiaeth o fanteision defnyddio'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig mewn busnesau twristiaeth. Cynhelir y diwrnod mewn cydweithrediad â Menter Iaith Gwynedd. Bydd siaradwyr yn sôn am enghreifftiau o arferion da wrth ddefnyddio'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig, y grantiau sydd i'w cael ar gyfer bwydlenni ac arwyddion, gwyliau trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer dysgwyr ac ati. Cafwyd cyflwyniad gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar bwysigrwydd yr iaith Gymraeg i fusnes.

I Top


Diwrnod Hyfforddi MS Outlook Express Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Mae rheoli gwybodaeth yn hanfodol i bawb sy'n defnyddio cyfrifiaduron, yn enwedig rhai sy'n rheoli negeseuon e-bost a'r calendr er mwyn trefnu contractau a rhaglenni gwaith. Sesiwn dair awr ar sut i wneud y defnydd gorau o MS Outlook / Express yn y diwydiant croeso. Y nos yw gwella sgiliau cyfrifiadurol yn y diwydiant croeso, manteisio i'r eithaf ar ddulliau cyfathrebu rhyngweithiol a dysgu sut i reoli amser yn well trwy drefnu tasgau a defnyddio'r calendr.

I Top


Diwrnod Beicio Mynydd Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Gyda dyfodiad llwybr beicio mynydd newydd 'cli-machx' Beicio Mynydd Dyfi, mae'r Canolbarth yn prysur ddod yn lle eithriadol o boblogaidd gyda beicwyr mynydd. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod beicwyr mynydd yn ymwelwyr gwerthfawr iawn - maen nhw'n gwario tua £50 y dydd yr un, bob dydd y maen nhw'n aros yma. Rhoi croeso cynnes iddyn nhw yw'r ffordd orau o'u denu yn ôl ac o sicrhau bod eich busnes yn elwa o'r cyfleoedd newydd a chyffrous hyn. Ar y diwrnod hwn, cewch wybod mwy am lwybrau Beicio Mynydd Dyfi a'r cyfleoedd a ddaw i fusnesau o ganlyniad i'r cynnydd yn nifer y beicwyr mynydd yn yr ardal. Trafodir arferion gorau rhai o'r busnesau lleol sydd eisoes yn elwa ar y cynnydd hwn. Nod y diwrnod yw sicrhau eich bod yn gwybod beth y mae Beicwyr Mynydd yn ei ddisgwyl pan fyddant ar wyliau fel y gallwch eu helpu i gael gwyliau ardderchog ac y byddant yn dod yn ôl dro ar ôl tro. Ymhlith y siaradwyr mae:

David Perrott, Cadeirydd Beicio Mynydd Dyfi
Iwan Marshall, Bwrdd Croeso Cymru
Gwerth y Sector - faint y mae beicwyr mynydd yn ei ennill, faint y maent yn ei wario, beth y maent yn chwilio amdano?
Judith Thornton, Beicio Mynydd Dyfi
Beicio Mynydd yn Nyffryn Dyfi/Canolbarth Cymru - dweud wrth eich ymwelwyr lle i fynd!
Carys Bowen, Adran Raddio'r Bwrdd Croeso
Gwneud y gorau o'ch llety - cyngor am raddio, grantiau ac ati.
Deiniol ap Dafydd, Blas ar Fwyd, Llanrwst
Bwydo'r beiciwr mynydd.
Iwan Marshall
Marchnata Beicio Mynydd - beth y mae'r Bwrdd Croeso'n ei wneud i ddenu'r tyrfaoedd.

Arferion Gorau: Enghreifftiau o fusnesau Dyffryn Dyfi:


  • Reditreks Bunkhouse [Llety caredig-i-feicwyr-mynydd a threfnwyr teithiau beicio mynydd]
  • Red Bike Hire [Sut, pam a lle i logi beic]
  • Greenstiles Bike Shop [Pecyn cymorth sylfaenol ar gyfer darparwyr gwasanaethau twristiaeth]
  • Holey Trail Bike Shop [Sut i drafod beics gyda beicwyr mynydd]

I Top


Profiad o Gymru a'r Eidal Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

Cwrs tair awr i ddangos sut i ychwanegu dimensiwn arall at fwydlen gwesty, caffi neu dy bwyta. Ar ôl arddangosiad ymarferol gan ddau gogydd Eidalaidd, cafodd aelodau'r cwrs gyfle i brofi'r bwydydd ac i ddefnyddio cynnyrch Cymreig i goginio rhai o'r ryseitiau Eidalaidd.
I Top


Website Accessibility Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion Nodi Diddordeb a chyflwyno manylion

One day course designed to increase and update knowledge of best practice in web accessibility, usability, navigation and search engine optimisation. Networking opportunity.

I Top


Tourism Training Forum for Wales          Tourism Partnership MID WALES          European Union Objective 1 & Objective 3  |  European Social Fund
Mewn partneriaeth a Chynghorau Sir Powys, Ceredigion a Gwynedd
In partnership with Powys, Ceredigion and Gwynedd County Councils

Cartref  |  Croeso  |  Hanes  |  Cais  |  Cwrs Hanes  |  Adborth  |  Tîm  |  Dolen
Meirionnydd  |  Ceredigion  |  Powys  |  ENGLISH

Medrwn, Ty Glyndwr, Machynlleth, Powys, SY20 8WW.
Ffôn: 01654 704201  |  Ffacs: 01654 704225  |  

Cynllun gan Severn Media Group Ltd. Ffôn: 01686 622365 ©2005.

Medrwn | eich datblygu we can develop you