Medrwn | eich datblygu we can develop you TrainingTourismBusiness
ENGLISH
Medrwn | eich datblygu we can develop you MeirionnyddCeredigionPowys
Medrwn | eich datblygu we can develop you
CARTREF
CROESO
HANES
CAIS
CWRS HANES
ADBORTH
TIM
DOLEN


hanes


Mae Rhaglen MEDRWN wedi adeiladu ar lwyddiant prosiect Anticipation a gynhaliwyd ym Mhowys yn 2001 gydag arian Amcan 3 o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Datblygwyd Medrwn i fynd â'r rhaglen hon gam ymhellach gan helpu busnesau twristiaeth ledled y Canolbarth, yn cynnwys ardaloedd Amcan 1 Ceredigion a Meirionnydd.

Llwyddodd y Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru (TTFW) sicrhau arian Amcan 1 ac Amcan 3 o'r ESF. Ein prif bartner ariannu yw Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru (PTCC), yn ogystal, cafodd y rhaglen gyfraniadau gan awdurdodau lleol Powys, Ceredigion a Gwynedd. Caiff ei rhedeg mewn partneriaeth â'r TTFW.

Datblygwyd y rhaglen, sy'n cael ei hariannu am ddwy flynedd, gan y diwydiant a rhanddeiliaid allweddol yn yr ardal. Mae'n rhan o gynllun gweithredu Datblygu Adnoddau Dynol ar gyfer y diwydiant Twristiaeth yn y Canolbarth a'i nod yw helpu pobl i gael gwybodaeth a sgiliau newydd, gwella profiad cyffredinol ymwelwyr yn y Canolbarth a sicrhau bod y diwydiant yn dod yn fwy cystadleuol.
Mae'r rhaglen yn rhan hanfodol o Strategaeth Datblygu Adnoddau Dynol Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru ac mae'n addas ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint (BBaChau) sy'n ymwneud â thwristiaeth - boed hynny'n siopau, yn fusnesau yn y diwydiant hamdden neu groesogarwch, neu'n ddarparwyr llety. Bydd yn annog yr holl staff, yn cynnwys rhai llawn amser, rhan amser, tymhorol ac achlysurol, i gymryd rhan yn y prosiect.

Roedd tîm gweithwyr Medrwn yn eu swyddi erbyn mis Medi 2004. Cyflogir Cydgysylltydd Datblygu Adnoddau Dynol a Gweinyddwr Ewropeaidd Medrwn gan TTFW ac maent yn gweithio yn swyddfeydd PTCC ym Machynlleth. Yn Aberhonddu y mae Cydgysylltydd De Powys a Cheredigion yn gweithio. Dyfarnwyd y contract i redeg Medrwn ym Meirionnydd a Gogledd Powys i Cymad, cwmni datblygu gwledig sydd â chryn brofiad o weithio yn y Gymru wledig ac sydd wedi rhedeg nifer o wahanol fentrau dros yr wyth mlynedd ddiwethaf. Mae hwylusydd yr ardal hon yn gweithio o swyddfeydd Cymad ym Mhorthmadog.

Lansiwyd Medrwn yn swyddogol ar 25 Chwefror 2005 yng Ngholeg Powys gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dafydd Ellis-Thomas Yr Arglwydd Dafydd
Elis-Thomas
Meddai "Mae twristiaeth yn rhan hanfodol o wead economaidd y Gymru fodern, ddeinamig. Os ydym am gystadlu ar lefel fyd-eang, mae'n rhaid i ni sicrhau bod ymwelwyr yn mwynhau profiad o ansawdd arbennig yn ogystal â'n hadeiladau a'n golygfeydd ysblennydd, harddwch cefn gwlad ac arfordir Cymru, y bwyd, y bobl a'r diwylliant. Rwy'n croesawu'r fenter newydd hon ac yn gobeithio y bydd yn helpu'r diwydiant croeso yng Nghymru i ffynnu."

Yn ôl Dee Reynolds, Cyfarwyddwr Strategaeth Ranbarthol PTCC: "Mae twristiaeth yn dod â dros £333m i economi lleol Canolbarth Cymru ac yn darparu dros 11,000 o swyddi. Mae twristiaeth yn helpu cymunedau ledled y Canolbarth i dyfu a datblygu a bydd Medrwn yn helpu i gynnig atebion hirdymor i gynnal y diwydiant croeso yn yr ardal.

"Dim ond un o'r llu prosiectau a reolir gan PTCC i ddatblygu a hyrwyddo twristiaeth yn y Canolbarth yw Medrwn. Mae mwy a mwy o bobl yn dod ar eu gwyliau i'r Canolbarth - trwy gydweithio gallwn sicrhau y byddant yn dymuno dychwelyd dro ar ôl tro!"

Daeth dros 40 o wahoddedigion i'r cyfarfod lansio gan fwynhau cyfleusterau a gwasanaeth ardderchog Coleg Powys. Roedd y myfyrwyr wedi paratoi cinio rhagorol o gynnyrch Cymreig lleol ac wedi helpu i drefnu'r achlysur. Roedd eu cyfraniad hwy yn amhrisiadwy."

Myfyrwyr Coleg Powys yn gweini "gwledd": chwith i'r dde; yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Diana James, Cyfarwyddwr TTFW, Gwawr Price Cydgysylltydd Medrwn a Dee Reynolds, Cyfarwyddwr Strategaeth Ranbarthol PTCC. Myfyrwyr Coleg Powys yn gweini "gwledd": chwith i'r dde; yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Diana James, Cyfarwyddwr TTFW, Gwawr Price Cydgysylltydd Medrwn a Dee Reynolds, Cyfarwyddwr Strategaeth Ranbarthol PTCC. Meddai Gwawr Price: "Mae Coleg Powys yn ganolfan ddelfrydol ar gyfer y cyfarfod lansio am sawl rheswm. Mae'n ganolog i bob rhan o'r Canolbarth, mae'n hawdd cyrraedd yno, pharcio da a chyfleus ac mae safon y cyfleusterau yn wych. Mae hefyd yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr gael profiad o baratoi a chynnal achlysur fel hyn. Bydd gwaith y myfyrwyr, cyn ac yn ystod y lawnsiad, yn eu helpu i gyflawni rhai o'u hunedau NVQ tuag at eu cymwysterau terfynol. Bu myfyrwyr arlwyo yn paratoi'r bwyd a myfyrwyr gweinyddu busnes yn helpu i baratoi taflenni ac ati ac i groesawu'r gwahoddedigion. Rhaglen i hybu dysgu a datblygu yw Medrwn ac mae hynny'n berthnasol i Goleg Powys hefyd. Cafodd y gwahoddedigion yn y cyfarfod lansio gyfle i weld y doniau yr ydym yn eu meithrin yn yr ardal."



Tourism Training Forum for Wales          Tourism Partnership MID WALES          European Union Objective 1 & Objective 3  |  European Social Fund
Mewn partneriaeth a Chynghorau Sir Powys, Ceredigion a Gwynedd
In partnership with Powys, Ceredigion and Gwynedd County Councils

Cartref  |  Croeso  |  Hanes  |  Cais  |  Cwrs Hanes  |  Adborth  |  Tîm  |  Dolen
Meirionnydd  |  Ceredigion  |  Powys  |  ENGLISH

Medrwn, Ty Glyndwr, Machynlleth, Powys, SY20 8WW.
Ffôn: 01654 704201  |  Ffacs: 01654 704225  |  

Cynllun gan Severn Media Group Ltd. Ffôn: 01686 622365 ©2005.

Medrwn | eich datblygu we can develop you